Cymdeithas Rhieni Ysgol Dyffryn Conwy

Eleni rydym wedi cychwyn Cymdeithas Rhieni Ysgol Dyffryn Conwy o’r newydd. Mae cefnogaeth a phartneriaeth ein rhieni yn allweddol bwysig i ni wrth weithio at y nod o sicrhau bod ein disgyblion yn cyrraedd eu potensial. Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn aelod o’n Cymdeithas Rhieni neu syniadau am sut allwn ddatblygu ymhellach ein partneriaeth gyda’n rhieni a gwarcheidwad yr ysgol cysylltwch â ni.
Mae Blaenoriaethau y Gymdeithas Rhieni eleni yn cynnwys:

  • Cynnal Ffair Nadolig/Haf i gefnogi gweithgareddau'r ysgol;
  • Cyfranogi fel rhanddeiliaid allweddol yn y cynllun ymgynghoriad ar wisg ysgol newydd ar gyfer 2018/19;
  • Ymgynghori ar ddatblygiadau eraill yr ysgol.

Rydym hefyd yn cynnal cyfarfodydd canlynol ar gyfer ein rhieni:

Rydym yn annog y cyfarfodydd ffurfiol hyn fel dull o gadw mewn cysylltiad â’n rhieni.

Yn ychwanegol rydym yn cynnal y cyfarfodydd canlynol ar gyfer rhieni/gwarcheidwad newydd:

  • Noson Agored Blwyddyn 5 a 6 – Hydref
  • Noson Agored 6ed Dosbarth – Diwedd Tachwedd

Cewch wybodaeth bellach drwy gysylltu â’r ysgol ac ar ein cyfrif Trydar a’r adran newyddion ar y safwe.