Cwricwlwm
- Polisi Cwricwlwm
Mae gan holl ddisgyblion Ysgol Dyffryn Conwy hawl i gael cwricwlwm eang a chytbwys sy’n: “Hyrwyddo eu datblygiad ysbrydol, moesol, diwylliannol, meddyliol a chorfforol ac yn eu paratoi ar gyfer cyfleoedd, cyfrifoldebau a phrofiadau bywyd oedolion.”
(Adran 351, Deddf Addysg 1996)
Cwricwlwm CA3:
Fel ysgol rydym yn falch iawn o’n hymwneud dros y tair blynedd diwethaf a’r cwricwlwm newydd, Cwricwlwm i Gymru. Fel ysgol, rydym wedi bod yn cyfrannu at ddylunio maes sydd yn bwysig iawn i’n calon fel ysgol ddwyieithog sef, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu. Fel Pennaeth rwyf wedi bod yn hynod o falch o gynrychioli disgyblion a’n cymunedau lleol ar fforymau arwain y cwricwlwm gan sicrhau ffocws uchel ar y Gymraeg, dwyieithrwydd ac anghenion ardaloedd gwledig. Gallwch ddilyn ein siwrne ar y BLOG ‘Cwricwlwm i Gymru’.
Rydym yn cydweithio yn agos â’n hysgolion cynradd i gynllunio profiadau pontio a phrofiadau dysgu tuag at gwricwlwm 2022 er mwyn sicrhau bod disgyblion yn pontio yn llwyddiannus o’n 13 ysgol gynradd dalgylch. Wrth symud tuag at y cwricwlwm newydd rydym yn awyddus i ddatblygu cysylltiadau naturiol rhwng pynciau er mwyn pontio o’n pynciau cyfredol i’r 6 maes dysgu a phrofiad newydd.
Ar hyn o bryd rydym yn cynnig y pynciau canlynol yn CA3:
Pynciau Craidd: Cymraeg (Iaith Gyntaf ac Ail Iaith yn dibynnu ar ddilyniant ieithyddol disgyblion or cynradd), Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth.
Pynciau All-graidd: Hanes, Daearyddiaeth, Addysg Grefyddol, Ffrangeg, Celf, Dylunio a Thechnoleg, Cerdd, Addysg Gorfforol, a Thechnoleg Gwybodaeth.
I’r dyfodol bydd y pynciau yn cael eu cyfuno mewn 6 Maes Dysgu a Phrofiad Newydd:
• Iechyd a Lles
• Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
• Mathemateg a Rhifedd
• Gwyddoniaeth a Thechnoleg
• Dyniaethau
• Celfyddydau Mynegiannol
Bydd y cwricwlwm hefyd yn ffocysu ar ddatblygu dinasyddion sydd yn gwireddu'r 4 Diben canlynol i ddatblygu:
• Dysgwyr uchelgeisiol galluog ...
• Cyfranwyr mentrus a chreadigol ...
• Unigolion iach a hyderus ...
• Dinasyddion egwyddorol gwybodus ..
Cwricwlwm CA4 a CA5:
Parhawn i gynnig y cyrsiau craidd statudol yn CA4 ynghyd a chyflwyno y Fagloriaeth Gymraeg, a cynnig hyd at 3 pwnc dewis. Yn CA4, ategir yr arlwy yn CA3 drwy gyrsiau newydd megis Busnes, Cymdeithaseg, Bwyd a Maeth, a Gofal Plant ynghyd a cyrsiau coleg mewn partneriaeth â rhwydwaith 14-16 Conwy a Coleg Glynllifon ar gyfer TGAU.
Ar gyfer cyrsiau Lefel A, cynnigir cyrsiau mewn partneriaeth drwy LINC Conwy hefyd.
Am fanylion pellach am ein cwricwlwm yn CA4 (TGAU) a CA5 (Lefel A) gweler ein llawlyfrynnau ar y safwe.
- Canllaw i Rieni am y cwricwlwm a threfniadau asesu 11-14 - cliciwch yma (Saesneg yn unig)
Gwybodaeth i rieni/gofalwyr a rhanddeiliaid am Cwricwlwm i Gymru
Mae wefan newydd wedi ei gyhoeddi er mwyn rhannu gwybodaeth am y cwricwlwm newydd gyda rhieni/gofalwyr a rhanddeiliad eraill. Gallwch ddarllen mwy drwy’r ddolen isod.
Am fwy o wybodaeth - cliciwch yma
Ysgol Dyffryn Conwy: Paratoi at Cwricwlwm i Gymru 2022
Yn ddiweddar bu tîm o Llywodraeth Cymru yn ffilmio disgyblion, staff, llywodraethwyr a Penaeth o’n Dalgylch cynradd i ganfod ein barn am y daith tuag at Cwricwlwm i Gymru. Gallwch ddysgu mwy a gwrando ar a gweld drwy’r ddolen canlynol i BLOG Cwricwlwm i Gymru - cliciwch yma
Safwe Newydd i rieni a gofalwyr am y newidiadau i Cwricwlwm ac Asesu yng Nghymru, cliciwch yma er mwyn darganfod mwy:
Bydd ymgynghoriad cenedlaethol ar y fframwaith cwricwlwm drafft 30/4/19. Bydd y cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno yn llawn i flynyddoedd at blwyddyn 7 erbyn Medi 2022 ac yn symud ymlaen ar gyfer blynyddoedd dilynol wedi hynny. Bydd y TGAU cyntaf o dan y cwricwlwm a trefniadau asesu newydd yn cael ei gyflwyno o Medi 2025 ac yn cael eu sefyll Haf 2027. Cewch ddarganfod mwy am y cwricwlwm newydd ar y safwe arbennig i rieni a gofalwyr.
Gwybodaeth i rieni/gofalwyr a rhanddeiliaid am Cwricwlwm i Gymru
Mae wefan newydd wedi ei gyhoeddi er mwyn rhannu gwybodaeth am y cwricwlwm newydd gyda rhieni/gofalwyr a rhanddeiliad eraill. Gallwch ddarllen mwy drwy’r ddolen isod.
Am fwy o wybodaeth - cliciwch yma
Ysgol Dyffryn Conwy - un o YSGOLION ARLOESI NEWYDD ar gyfer Cwricwlwm y dyfodol:
Yn sgil y gwaith hwn a'n cydnabyddiaeth fel Ysgol Arweiniol ar y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd yn genedlaethol, rydym hefyd wedi cael ein hadnabod yn ddiweddar fel un o'r 25 Ysgol Arloesi newydd ar gyfer y Cwricwlwm Newydd. Fel Ysgol Arloesi byddwn yn cydweithio efo ysgolion eraill yn Genedlaethol ac yn lleol drwy'r Rhwydwaith Arloesi i ddatblygu'r Maes Dysgu a Phrofiad 'Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu'. Bydd hyn yn gyfle arbennig i'n staff, disgyblion a'n rhanddeiliad fod yn rhan uniongyrchol o gynllunio a chyfrannu at y Cwricwlwm Newydd i Gymru.
Gallwch ddarganfod mwy am yr Ysgolion Arloesi a'r Cwricwlwm newydd o'r dolenni canlynol yn cynnwys cyfraniad Ysgol Dyffryn Conwy fel Ysgol Arloesi Newydd ar BLOG 'Cwricwlwm i Gymru':
Gallwch glywed ein Pennaeth, Miss Elan Davies yn siarad am y datblygiadau'r cwricwlwm newydd drwy’r dolenni isod:
- Cychwyn fel Ysgol Arloesi Cwricwlwm Newydd, Ionawr 2017 - cliciwch yma
- Cyflwyno ar waith yr ysgol a’r Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yn lansiad ‘Addysg yng Nghymru - Cenhadaeth ein Cenedl’, Medi 2017. Darllenwch y ddogfen yma
- Datblygu syniadau ‘Yr Hyn Sy’n Bwysig’ ar gyfer Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, Ionawr 2018 - cliciwch yma
Dogfennau eraill perthnasol:
- Blog ‘Cwricwlwm i Gymru’ – cewch fwy o wybodaeth yma
Datblygiadau yn yr Ysgol:
Ysgol Dyffryn Conwy yn cychwyn ar gynllun ‘Meddwl’ mewn iaith: ‘Let’s Think in English’:
Fel rhan o’n gwaith ar gyfer y Maes Dysgu Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu ar gyfer ‘Cwricwlwm i Gymru’ rydym wedi cychwyn prosiect cyffroes ar y cyd â Choleg Prifysgol King’s yn Llundain. Bwriad y prosiect ydy datblygu sgiliau meddwl arfarnol disgyblion drwy lafaredd a llenyddiaeth. Mae ymateb ein disgyblion i’r prosiect wedi bod yn arbennig. Efallai eich bod wedi clywed rhai ohonynt a staff yr ysgol yn son am y prosiect ar Radio Cymru. Bellach rydym wedi cychwyn ar ail gam y prosiect gan gydweithio mewn partneriaeth â’n hysgolion cynradd i ddatblygu cynllun ‘Let’s Think’ efo blwyddyn 5 a 6 hefyd. Rydym yn falch iawn o fod yr ysgol a bellach y dalgylch gyntaf yng Nghymru i fabwysiadu'r prosiect. Ein nod fydd pontio'r strategaethau dysgu ac addysgu i wersi Cymraeg ac Ieithoedd Tramor Fodern ac wrth ddatblygu sgiliau llythrennedd a meddwl disgyblion ar draws y cwricwlwm.
Prosiect Ieithoedd Dyfodol Byd Eang:
Mae’r ysgol yn cydweithio efo’n Hysgolion Dalgylch a GWE i ddatblygu prosiect Ieithoedd yn y Cynradd fel rhan o Strategaeth Ddyfodol Byd Eang Cenedlaethol. Dyma oedd gan Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet ar Addysg i’w ddweud am y prosiect:
“Mae Ysgol Dyffryn Conwy yn gweithio ar y cyd â’i ysgolion cynradd dalgylch ar brosiect cytûn. Bwriad y prosiect ydy datblygu cynllun iaith gytunedig (cynradd-uwchradd) fel paratoad ar gyfer Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu'r cwricwlwm newydd. Nod y cynllun ydy i gynllunio profiadau dysgu ar gyfer blwyddyn 5 a 6 fydd yn cefnogi dysgu ieithoedd (sylw penodol ar hunaniaeth, datblygu iaith i gyfathrebu a sgiliau trawsieithu a gwybodaeth am ramadeg).”
Prosbectws Y Chweched dosbarth (newydd) 2021 - 2023
Cymraeg
Hyrwyddo’r Gymraeg
2
Saesneg
Mathemateg
Ffiseg
Cemeg
Bioleg
Cerddoriaeth
Drama
Celf a Dylunio
Dylunio a Thechnoleg
Busnes BTEC
Chwaraeon BTEC
Cymdeithaseg
Seicoleg
Hanes
Daearyddiaeth
Astudiaethau Crefyddol
Tystysgrif Her Sgiliau
Cam wrth Gam
Llwybrau Dysgu 14-16 Llawlyfr Dewisiadau 2021-2023
Cymraeg
Cymraeg Ail Iaith
Saesneg
Gwyddoniaeth Dwyradd
Mathemateg
Hanes
Bwyd a Maeth
.
Drama
Dylunio a Thechnoleg
Cymdeithaseg
Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant TGAU
Addysg Gorfforol
Busnes
Daearyddiaeth
Ffrangeg
Tystysgrif Her Sgiliau
Technoleg Ddigidol
Cerddoriaeth
Celf a Dylunio
Bagloriaeth Cymru
TGAU
Galwedigaethol